Gulp

Gulp
Bywgraffiad:
Aelodau Gulp yw Guto Pryce (Super Furry Animals) a Lindsey Leven, gyda Gid Goundrey ar y gitâr a Gwion Llewelyn (Race Horses) ar y drymiau. Bas aneglur, lleisiau ‘dream folk’, drymiau acwstig ac electronig a synths...mae eu sain sinematig ac awyrol yn arddangosiad cerddorol o daith ar y ffordd; y tirlun a’r digwyddiadau yn ystod y daith, golygfeydd a melodïau ffilmaidd - o’r craffu yn yr haul, y dirlawnder crynedig a fflêr y lens yn niffeithwch Califfornia i gyfnos cefn-gwlad cartrefol yr Alban a Chymru.

Ym mis Mehefin 2012 rhyddhawyd eu sengl gyntaf, Game Love, a gafodd adolygiad 5* gan gylchgrawn Artrocker a chyrraedd ‘dewis yr wythnos’ The Guardian Guide. Ddiwedd 2012 bu Gulp yn teithio’r DU ac Iwerddon fel act ategol Django Django a hefyd bu’r grŵp yn cyfrannu at Ip remix Django sef Hi Djinx! gyda fersiwn o Hand of Man.

Ym mis Gorffennaf 2013 rhyddhawyd ail sengl Gulp, sef 'Play', a buont yn ymddangos mewn nifer o wyliau’r DU yn ystod yr haf.

Cwblhawyd LP gyntaf Gulp ym mis Ionawr 2014 a bydd yn cael ei rhyddhau yn y Gwanwyn.

"a thing of eyeball popping beauty that deserves to have psychotropic palm leaves wafted at its feet (and then, ideally, eaten)"
Artrocker 5 stars *****

"It's an amalgam of 21st-century electronic squiggles and vintage airy psych-folk, as contemporary as video games and as old as the hills" Spin.com

"(Game Love's) spooked demeanour suggests The Wicker Man getting fresh with Nancy Sinatra. That's Gulp: easy to swallow, hard to forget" Guardian Guide Pick of the Week

Sioeau SXSW:

Dydd Gwener, Mawrth 14 @ 1.20yh: British Music @ SXSW, British Music Embassy, Latitude 30, 512 San Jacinto Blvd. Austin, Texas.

Dydd Gwener, Mawrth 14 @ 00:00yb
: The Hideout, 617 Congress Ave, Austin, Texas.

Cysylltwch â:
gulp@gulpgulp.co.uk

Gyda chymorth:

WAI_WG_ACW

Newyddion

Newyddion Cerdd Cymru : Music Wales

Newyddion

Gulp

Amdanon ni

Contact Us

Cysylltwch â ni