Gwyneth Glyn

Mae Gwyneth Glyn yn fardd a chantores. Trwy gyfuno'r traddodiad gwerin Cymreig ȃ dylanwadau cyfoes, datblygodd ei sain unigryw, oesol ei hun. Ei hysbrydoliaeth pennaf yw straeon ei hynafiaid a glywodd yn blentyn, a'r ddeuoliaeth o fod wedi ei magu yn y gogledd gwledig, tra'n byw ar hyn o bryd ym mhrifddinas Caerdydd. Astudiodd Athroniaeth a Diwinyddiaeth yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, cyn dychwelyd i Gymru i ysgrifennu a chanu. Mae ei gwaith yn cynnwys dramȃu llwyfan, llyfrau plant a sgriptiau teledu. Hi oedd Bardd Plant Cymru 2006-2007. Yn 2006 enillodd wobr artist benywaidd y flwyddyn yng nwobrau Roc a Phop Radio Cymru. Cafodd ei thrydedd albym 'Cainc' ei rhyddhau yn 2011.

Newyddion

Newyddion Cerdd Cymru : Music Wales

Newyddion

Gwyneth Glyn

Amdanon ni

Contact Us

Cysylltwch â ni