Hoff artistiaid Bryn Terfel

Catrin Finch

Mae Catrin, sy'n cael ei disgrifio fel "Brenhines y Telynau", wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd â’i pherfformiadau yn y DU ac yn fyd-eang ac wedi perfformio gyda llawer o brif gerddorfeydd y byd. Cafodd ei hysbrydoli i ddysgu canu’r delyn pan oedd yn bum mlwydd oed, a’i phrif lwyddiant cyntaf oedd cipio gwobr Cystadleuaeth Telynau Ryngwladol Lily Laskine yn Ffrainc ym 1999.

Mae Catrin yn gyn-Delynores Frenhinol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

Rhyddhawyd recordiad Catrin o Amrywiadau Goldberg - JS Bach gan Deutsche Grammophon yn 2009 gan fynd yn syth i rif 1 yn siartiau clasurol y DU. Ym mis Tachwedd 2012, cafodd cryno ddisg newydd o gerddoriaeth gan John Rutter a ‘Celtic Concerto’ gan Catrin ei hun ei ryddhau ar y label DG. Mae ei dawn amlochrog hynod mewn gwahanol genres cerddorol yn cael ei amlygu yn ei holl recordiadau. Mae'r rhain yn amrywio o ddatganiadau a concertos clasurol fel unawdydd, hyd at gyfuniad eclectig sy’n croesi pob math o ffiniau a chyflwyniadau o rai o alawon traddodiadol mwyaf poblogaidd Cymru mewn ffordd arloesol a ffres, gan ddefnyddio telynau trydan, y dechnoleg ddiweddaraf ac effeithiau seiniol cwbl wreiddiol.

Uchafbwyntiau 2012 - perfformiadau yng Ngogledd Carolina, Efrog Newydd, Hong Kong ac Awstralia, concerti gyda Cherddorfa Siambr yr Undeb Ewropeaidd a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, premières dau goncerto newydd i’r delyn a ysgrifennwyd yn arbennig ar ei chyfer, a thaith gyda Toumani Diabaté y chwaraewr kora o Mali.

Mae Catrin, sy’n adnabyddus am ei gwaith yn y gymuned a chyda’r genhedlaeth iau, yn ymrwymedig i hyrwyddo’r delyn a cherddoriaeth glasurol yn gyffredinol i gynulleidfa newydd ac ehangach.

http://www.catrinfinch.com/

Steffan Morris

Yn enedigol o Gastell Nedd, bu Steffan Morris yn ddisgybl yn ysgol enwog Yehudi Menuhin ac erbyn hyn mae’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cerdd a’r Celfyddydau Perfformio yn Vienna lle mae’n astudio’r sielo gyda’r Athro Heinrich Schiff. Mae datganiadau a pherfformiadau Steffan mewn cyngherddau wedi caniatáu iddo deithio yn eang yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Japan, yr Iseldiroedd, yr Almaen, yr Eidal, Rwsia ac Awstria. Rhai o uchelbwyntiau 2012 : perfformiadau o Goncerto Haydn i’r Sielo gyda Sinfonia Cymru dan arweiniad Paul Watkins a chyngerdd yn Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen lle gwelwyd Steffan yn arwain ac yn chwarae unawd ar y sielo. Mae Steffan yn un o’r rhai cyntaf i dderbyn gwobr astudio gan Bryn Terfel.

http://www.huwrobertsaccountant.co.uk/Steffan_Morris/Home.html

John Owen Jones

Mae John wedi ennill clod mawr fel perfformiwr ac yn un o brif sêr y West End a Broadway, ond yn fwy adnabyddus efallai am chwarae rhan Jean Valjean yn Les Misérables a’r Phantom yn The Phantom of the Opera.

Ar hyn o bryd mae John yn chwarae rhan y Phantom mewn theatrau ledled y DU yng nghynhyrchiad newydd sbon Cameron Mackintosh sy’n dathlu pen-blwydd sioe Andrew Lloyd Webber The Phantom of the Opera yn 25ain oed.

http://www.johnowenjones.com/John_Owen-Jones/Home.html

Sinfonia Cymru

http://sinfoniacymru.co.uk/

Newyddion

Newyddion Cerdd Cymru : Music Wales

Newyddion

Hoff artistiaid Bryn Terfel

Amdanon ni

Contact Us

Cysylltwch â ni