Tauseef Akhtar

Cafodd Tauseef ei eni i deulu o gerddorion addysgedig a meistri’r iaith a barddoniaeth Wrdw. Cafodd ei fagu o dan lygad gofalus a thiwtelaeth fanwl ei dad medrus, Janab Akhtar Azad Saheb – beirniad heb ei ail ac arbenigwr yn y Shayari, Ghazals ac ynganu perffaith.

Cafodd Tauseef ei addysg gychwynnol mewn canu Indiaidd clasurol gan yr enwog ddiweddar Pt. Govind Prasad ‘Jaipurwale’. Dim ond ar ôl marwolaeth hwnnw y daeth y Tauseef ifanc o dan adain brenin y ghazal, Janab Jagjit Singh ji. Trwyddo ef, cafodd Tauseef hyfforddiant gwerthfawr mewn perfformio ghazal ac mewn perfformiadau lleisiol clasurol hefyd.

 llinach mor hynod, roedd hi’n ddigon naturiol i Tauseef gyfoethogi ei brofiad mewn cerddoriaeth glasurol a chywreinio ei chwaeth o ran shayari Wrdw. Mae hyn yn amlwg iawn yn ei ddewis o farddoniaeth ac yn ei berfformiadau crefftus - sef ei gryfder. Mae ei ghazal yn hynod o naturiol ac yn rhwydd i nifer fawr o bobl eu deall.

Mae Tauseef yn cyfuno ei waith fel canwr â’r galw am ei gyfansoddiadau gan y diwydiant ffilm Indiaidd. Cydweithiodd â’r cyfansoddwr Nadeem o’r ddeuawd Nadeem-Shravan enwog fel ei gyfarwyddwr cerdd cynorthwyol ac mae e wedi gweithio ar nifer o ffilmiau poblogaidd, yn ogystal â cherddoriaeth i’r teledu a chyngherddau cyd-asio.

Newyddion

Newyddion Cerdd Cymru : Music Wales

Newyddion

Tauseef Akhtar

Amdanon ni

Contact Us

Cysylltwch â ni