EFEx 2018

EFEXPartner Rhyngwladol

Arddangosfa ryngwladol o gerddoriaeth werin Lloegr yw English Folk Expo (EFEx). Fe'i cynhaliwyd yn Bury yn wreiddiol, ond yn 2017 symudodd i chwarter First Street canol Manceinion, gan seilio ei hun yn y Ganolfan Gelfyddydau £ 25m newydd HOME, lle caiff ei gyflwyno ar y cyd a gŵyl gyhoeddus newydd, Gŵyl Werin Manceinion. Fe'i cynhelir bob amser dros y penwythnos cyn WOMEX.

Yn 2018, Cymru yw partner rhyngwladol EFEx. O dan faner Cerdd Cymru: Music Wales, byddwn yn cyflwyno rhai o'n cerddorion Cymreig angerddol sydd yn rhannu eu cerddoriaeth gyda'r byd, i 180 o gynadleddwyr rhyngwladol EFEx: asiantau, hyrwyddwyr, rhaglenwyr cerdd a threfnwyr gwyliau o bob cwr o'r byd.

Ar ddydd Gwener 19eg Hydref, bydd Cerdd Cymru: Music Wales yn cynnal derbynfa gydag EFEx i gynadleddwyr yn y Great Northern Warehouse, Manceinion. Yn hwn, byddwn yn cyflwyno Catrin Finch a Seckou Keita, 9Bach, Gwyneth Glyn ac ALAW.

Newyddion

Newyddion Cerdd Cymru : Music Wales

Newyddion

EFEx 2018

Amdanon ni

Contact Us

Cysylltwch â ni